RS Thomas was a poet of genius. But he was an idiosyncratic parish priest. That's a kind way of saying he displayed few of the pastoral or human qualities you'd expect to see in a priest.
Byron Rogers' biography of RS Thomas, The man who went into the west, is one of the finest biographies I have ever read: 315 pages of pure delight. Rogers explores the contradictions deep within this extraordinary character: the champion of the Welsh language who failed to teach his son yr hen iaith; the Welsh nationalist who was most comfortable amongst the English middle classes.
Rogers quotes RS's son, Gwydion, at length. Most readers will feel huge sympathy for Gwydion, who suddenly found himself sent away to an English boarding school at the age of eight. His father later told him: "If you hadn't gone away we wouldn't have had the time to write and paint". I don't imagine that helped this father and son relationship.
It's easy to dismiss such heartlessness, and other examples of RS Thomas's lack of human touch. (His most significant comment to Elizabeth Taylor was: "Have you tried plaice?") Yet Rogers quotes many examples of parishioners who were comforted by his rather gruff form of human kindness. I was left with the feeling that this talented poet was blighted by shyness and a romantic, rather than practical, view of his nation.
Seven years ago I read RS Thomas's Welsh language autobiography, Neb as I prepared to sit my Welsh for Adults A level exam, Defnyddio'r Gymraeg Uwch. The review that foilows reflects my view of the greatest living English language Welsh poet just months before his death.
Adolygiad o Neb, gan RS Thomas
RS Thomas ydy’r bardd enwocaf sy’n ysgrifennu yn Saesneg yng Nghymru heddiw. Ond mae e wedi ysgrifennu ei hunangofiant yn Gymraeg, yr iaith a ddysgodd ar ôl iddo gyrraedd deg ar hugain oed.
Mae’r awdur yn ysgrifennu rhyddiaith fel bardd – does dim gair a wastraffwyd, a’r llyfr i gyd yn delynegol. Mae RS Thomas yn disgrifio y byw cefn gwlad Cymru a’r anifeiliad a’r adar sy’n byw ynddi.
Mae teitl y llyfr – Neb – yn arwyddocaol. Mae RS Thomas wedi dewis y trydydd person wrth adrodd ei hanes. Mae e’n awgrymu ei fod e’n ‘neb’ – rhywun heb bwysigrwydd. Mae hon yn thema sy’n rhedeg trwy’r llyfr fel edau. Mae’n gofyn “sut y gallai neb fod yn dad i rywun”. Mae’r teitl yn awgrymu bod yr awdur yn ddyn gwylaidd. Ond yn Gymraeg, mae’r gair ‘neb’ yn amwys. Mae’n golygu ‘rhywun’ hefyd – ac erbyn diwedd y llyfr, mae’r darllenwr yn sylweddoli nad ydy RS Thomas mor wylaidd. Mae gan RS Thomas farnau cryf ar lawer o bynciau, ac mae e’n beirniadu ei gyd-Gymry mewn llawer o ffyrdd.
Drwy ei fywyd hir, mae RS Thomas wedi edrych yn ôl at ei blentyndod, ac at ardal ei fagu, Caergybi ar Ynys Môn. O Gaergybi, mae’n bosibl gweld “hanner can milltir o fynyddoedd mawreddog yn gefndir bob dydd i drigolion Môn”. Mae hwn yn actio fel magned i’r awdur am flynyddoedd. Roedd hiraeth arno am Gaergybi, a mynyddoedd Eryri dros Bont Menai, oherwydd harddwch yr ardal, a’r bywyd Cymraeg. Ond tref ddiwydiannol, ddi-Gymraeg ydy Caergybi. “Caergybi? Dim o gwbl. Holyhead oedd hi, fel y mae hyd heddiw…”
Mae RS yn gafael yn dynn mewn manylion personol wrth ddweud ei hanes. Rydyn ni’n dysgu am ei berthynas anodd gyda’i fam dim ond ar ôl marwolaeth ei dad pan oedd RS yn hanner cant oed. Gwrthododd yr awdur adael i’w fam fyw gydag ef a’i wraig – agwedd annisgwyl oddi wrth ddyn yr eglwys. Beth oedd wedi digwydd? Mae RS Thomas yn dweud dim ond, “Un anodd byw hefo hi [ei fam] ydoedd ac ni fyddai hynny’n deg â’i wraig o.”
Ydy RS yn hoffi unrhywun fel y mae’n caru adar ac anifeiliad? Dydy e ddim yn siarad yn garedig am lawer o bobl, er ei fod e’n canmol aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am eu hymgyrch ar ran yr iaith. Dweud y gwir, mae’r awdur yn beirniadu llawer o bobl eraill. Mae’n beirniadu’r eglwys yn 1939 oherwydd ni chondemnion nhw’r rhyfel yn erbyn y Natsïaid. Mae’n beirniadu’r Cymry achos eu bod nhw wedi gadael i’r bywyd Cymraeg ddiflannu mewn llawer o leoedd. Ond ydy RS yn eithaf rhamantaidd am y gorffennol? “Yma unwaith roedd pobl yn byw, yn byw bywyd Cymraeg, yn hel eu tamaid o’r tir, yn torri mawn ac yn addoli a chynnal cyfarfodydd diwylliannol yn y capel lleol. Ond roeddent wedi mynd, bron bob un ohonynt.” Mae hwn yn bortread trist, ond ydy RS yn edrych yn ôl at baradwys ffug? Roedd y bywyd hwn yn galed iawn.
Ydy RS yn teimlo’n siomedig gyda’i fywyd? Mae e wedi treulio ei oes yn chwilio am fywyd Cymraeg. Symudodd e i Sir Aberteifi yn y Pumdegau gan obeithio bod yr iaith Cymraeg yn gryfach nag oedd hi yn Sir Drefaldwyn. Ond roedd dylanwad yr iaith fain (Saesneg) wedi cyrraedd. Deng mlynedd yn hwyrach, symudodd RS i’w blwyf olaf. Roedd e o’r diwedd yn ei hoff ardal – ardal ble siaradodd y rhan fwyaf ei thrigolion Gymraeg, a ble gallai ef weld hen fynyddoedd Eryri a Môn – ardal ei fagwriaeth. Mae e wedi cyrraedd y wlad a addwyd. Ond hyd yn oed fan hyn, mae e’n teimlo yn eithaf crac. Mae’r Llu Awyr yn ymarfer dros Ben
Mae’r awdur yn eithaf rhamantaidd, ac hefyd yn eithaf beirniadol. Ond mae ef wedi bod yn ddylanwad pwysig iawn ym mywyd Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Fel bardd Saesneg, mae RS Thomas heb ei ail. Bellach, mae e wedi ysgrifennu hunangofiant Cymraeg ardderchog.
Comments